Mae'r Strategaeth hon yn adeiladu ar Strategaeth TG a Thechnoleg flaenorol 2017-2020 ac yn canolbwyntio ar sut rydym yn anelu at ddarparu Gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth (TG) ar gyfer y cyfnod 2021-2024.
Mae'r Gwasanaethau TG yn cynnwys dwy (Uned Cyflenwi Gwasanaethau TG ac Uned Systemau TG a Seilwaith) o’r pedair uned yn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Digidol a sefydlwyd yn gynnar yn 2020.
Mae'r Gyfarwyddiaeth newydd yn cyd-fynd â strategaethau allweddol y Brifysgol i ategu dull Dysgu ac Addysgu newydd sy'n canolbwyntio ar allu digidol y sefydliad.
Mae'r ddogfen hon yn nodi gweledigaeth TG, amcanion strategol, a'r themâu lefel uchel sy'n eu hategu. Mae'n ystyried grŵp ehangach Y Drindod Dewi Sant, gan archwilio cyfleoedd i gydweithio, a thrafod sut mae gweledigaeth TG yn ymwneud â Strategaeth Ddigidol Y Drindod Dewi 2021-2023 a Strategaeth gyffredinol y Brifysgol. Mae'n dod i ben drwy ddarparu proffiliau gweithredu a buddsoddi gyda chynlluniau gweithredu blynyddol CAMPUS a ddefnyddir i fonitro'r gwaith o gyflawni'r amcanion dros y tair blynedd nesaf.
Er mai Strategaeth y Brifysgol yw hon yn bennaf, mae lle iddo gyd-fynd a chydweithio â Grŵp y Brifysgol.
Rhoi Dysgwyr yn Gyntaf
Rhagoriaeth mewn Addysgu, Ysgolheictod ac Ymchwil Gymhwysol
Creu Cyfleoedd drwy Bartneriaethau
Prifysgol i Gymru
Cysylltedd Digidol
Cynhyrchiant Digidol
Dysgu Digidol
Cynhwysiant Digidol
Galluoedd Digidol
Arloesedd Digidol
Syml, Ar Gael a Seiberddiogel
Isadeiledd yn cadw i fyny
Galluogi penderfyniadau sy'n cael eu gyrru gan Ddata gan sicrhau cynwysoldeb a boddhad
Yn canolbwyntio ar y dysgwr ac yn arloesol
Rhagweithiol nid adweithiol
Roedd Strategaeth TaSG flaenorol 2017-2020 yn canolbwyntio ar ddarparu llwyfan TG blaenllaw sector ar gyfer myfyrwyr, academyddion a gwasanaethau proffesiynol, yn arbennig cefnogi twf y Brifysgol yn Abertawe a'r campysau Canol Dinas, torri drwy brosesau myfyrwyr a yrrir gan bapur, a thanategu gwelliannau i dablau cynghrair. Mae dadansoddiad manwl ar gael yn ein Strategaeth TaSG 2017-2020 – Dadansoddiad Ôl-Strategaeth.
Yn sgil y pandemig byd-eang yn 2020/21 gwelwyd dull newydd o weithio a byw, gydag addasiadau cyson i weithio, addysgu ac astudio. Mae'r amgylchedd mwyaf heriol ers degawdau wedi cyflwyno cyfres o alwadau ar TG ac wedi gwneud am gyfnod pan na fu pethau erioed mor brysur, ac mae arloesedd wedi ffynnu.
Mae TG wedi canolbwyntio ar wneud lleoliad mynediad TG yn agnostig, cefnogi staff a myfyrwyr gyda rhyngweithio a dysgu ar-lein, a chynnal diogelwch mewn amgylchedd Seiberddiogelwch sy'n gynyddol elyniaethus. Amlygwyd hyn yn enghraifft o arfer rhagorol mewn archwiliad diweddar o Barhad Busnes.
Bydd y Strategaeth TG hon yn symud y ffocws i ymgysylltu'n ehangach â Choleg Sir Gar a Choleg Ceredigion. Rydym eisoes yn ymgynghori â chydweithwyr Addysg Bellach am arbenigedd mewn meysydd technegol a pholisi TG a byddwn yn adeiladu ar y cysylltiadau hyn, gyda'r frwydr yn erbyn Seiberdroseddu yn ffurfio'r prif ymgysylltu.
Bydd cyfuno ein harbenigedd a'n hadnoddau technegol cyfunol yn adeiladu llwyfan cryfach i ni sicrhau ein diogelwch. Gan ddefnyddio'r platfform hwn, gallwn adeiladu themâu cyffredin ym meysydd Wi-Fi a dilysu ar gyfer datblygiadau campws ar y cyd yn y dyfodol, a hefyd gyda'n modelu cysylltedd rhwydwaith rhyng-safle – chwilio am gyfleoedd i wneud yn fawr o'n cysylltedd a'n gwariant.
Cynhaliwyd ymgynghoriad i gryfhau'r Strategaeth TG, a sicrhau ei bod yn cyd-fynd ag anghenion a dyheadau gwasanaethau myfyrwyr, academaidd a phroffesiynol. Roedd yr ymarfer hwn yn addysg fawr, ac mae'r adborth wedi'i ymgorffori, gan gyfoethogi a chanolbwyntio'r cynnwys.
Mae ein gweledigaeth yn glir, i ddarparu systemau a gwasanaethau TG o'r radd flaenaf i staff a myfyrwyr, wrth danategu ymchwil a datblygiad sy'n arwain y sector. Atgyfnerthir TG gan gysylltiadau agosach ag unedau eraill o fewn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Digidol, a byddwn yn meithrin cysylltiadau cryf i ddarparu'r llwyfan ar gyfer Strategaeth Ddigidol Y Drindod Dewi Sant 2021-2023 i lwyddo.
Ein nod yw sicrhau uniondeb a chynaliadwyedd gwasanaethau, systemau a seilwaith TG. Mae angen lefel briodol o fuddsoddiad er mwyn sicrhau llwyddiant ein Strategaeth TG. Mae'r Strategaeth TG yn darparu proffil gwariant clir dros y tair blynedd nesaf fel bod gofynion ariannol yn glir a bod modd cynllunio cymorth ariannol yn unol â hynny. Mae strwythur y Strategaeth TG yn hyblyg i addasu i anghenion newidiol y Brifysgol.
Mae ein chwe amcan TG strategol ar gyfer y tair blynedd nesaf fel a ganlyn:
Bydd nifer o themâu lefel uchel yn cefnogi ein hamcanion Strategol fel a ganlyn:
Amcan strategol TG | Thema lefel uchel TG |
Syml, Ar Gael a Seiberddiogel | Seiberddiogelwch Mudo i’r Cwmwl |
Sicrhau bod ein Seilwaith yn cyd-fynd ag anghenion y Brifysgol | Wi-Fi cyflymder uchel Uwchraddio rhwydwaith campws Technolegau Dysgu |
Galluogi penderfyniadau sy’n seiliedig ar ddata | Llywodraethu Data Datganiad Myfyrwyr HESA a Data’r Dyfodol |
Cynwysoldeb a Bodlonrwydd TG Myfyrwyr a Staff | Ymgysylltu a chyfathrebu â myfyrwyr Prydlesu Cyfarpar Cyfarfodydd ar-lein a fideo-gynadledda |
Datblygiadau TG Arloesol sy'n Canolbwyntio ar y Dysgwr | Datblygu ac Integreiddio TG Amgylchedd Dysgu Rhithwir |
Rhagweithiol, nid adweithiol | Cynllunio llwyth gwaith ystwyth a rheoli Prosiect Prince2 Agile Adrodd ar ddata tocynnau TG |
Mae'r Strategaeth Ddigidol yn canolbwyntio ar chwe thema Ddigidol. Mae ein hamcanion Strategol TG yn cyd-fynd â'r themâu hyn yn y modd canlynol:
Thema'r Strategaeth Ddigidol | Amcan strategol TG |
Cysylltedd Digidol |
|
Cynhyrchiant Digidol |
|
Dysgu Digidol |
|
Cynhwysiant Digidol |
|
Galluoedd Digidol |
|
Arloesedd Digidol |
|
Mae'r Strategaeth TG hefyd yn ystyried Strategaeth ehangach y Brifysgol yn ei holl benderfyniadau a chynllunio gweithredu:
Mae'r Strategaeth TG hefyd wedi'i chynllunio i fod yn hyblyg er mwyn darparu ar gyfer unrhyw ddatblygiadau sydd ei angen yn y dyfodol i gefnogi strategaethau newydd. Bydd hyn yn cynnwys y gallu i gefnogi egwyddorion y Strategaeth Addysgu a Dysgu wrth iddi gael ei hadnewyddu.
Bydd llwyddiant y strategaeth hon yn cael ei fesur drwy gyflawni'r proffil Gweithredu TG a gyflwynir yn yr adran Gweithredu/Monitro. Cefnogir y proffil Gweithredu hwn drwy gymhwyso cynlluniau gweithredu CAMPUS blynyddol TG.
Bydd y gwaith o weithredu a monitro'r cynnydd a gyflawnwyd o ran cyflawni'r proffil gweithredu a'r cynlluniau blynyddol yn cael ei oruchwylio gan Uwch Dîm Rheoli'r Gyfarwyddiaeth Ddigidol. Darperir diweddariadau rheolaidd i'r Tîm Arweinyddiaeth Weithredol, y Tîm Cynllunio Academaidd a'r Uwch Gyfarwyddiaeth yn ôl y gofyn.